天美传媒

Gwaith yn mynd rhagddo ar adeiladu ysgol Gymraeg yn Nhredegar

Mae鈥檙 gwaith wedi dechrau ar adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Nhredegar.

Disgwylir gorffen adeiladu鈥檙 ysgol yng ngwanwyn 2025, fodd bynnag sicrhawyd darpariaeth dros dro ar gyfer disgyblion fydd yn mynychu鈥檙 ysgol newydd (Ysgol Gymraeg Tredegar) yn Nh欧 Bedwellte, lle byddant yn cael eu dysgu nes bydd yr adeilad newydd yn agor.

Mae鈥檙 ysgol egin 210-lle, sy鈥檔 cynnwys darpariaeth gofal plant, yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu cyfleoedd am addysg Gymraeg yn y fwrdeistref sirol. Caiff yr ysgol a鈥檙 cyfleuster gofal plant ar y safle eu hariannu鈥檔 llawn gan Lywodraeth Cymru. Er bod yr amcangyfrifon cost dechreuol wedi codi oherwydd costau cynyddol sy鈥檔 effeithio ar brosiectau ym mhob rhan o鈥檙 wlad, bydd y gwaith adeiladu yn dal i gael ei gyllido o ffynonellau cyllid allanol a grantiau.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi ei ffederaleiddio gyda Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ysgol gynradd Gymraeg bresennol y fwrdeistref sirol, a bydd yn rhannu鈥檙 un Corff Llywodraethu a聽 Phennaeth. Mae gan Ysgol Gymraeg Tredegar gartref dros dro ar hyn o bryd yn Nh欧 Bedwellte nes caiff yr adeilad newydd ei gwblhau.

Bydd yr ysgol yn galluogi鈥檙 Cyngor i ateb y galw cynyddol am ofal plant a lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, ardal chwarae coedwig, perllan dyfu a dolydd blodau gwyllt. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwybodol o鈥檙 hinsawdd gyda phaneli solar a mannau gwefru cerbydau trydan.

Caiff ardal chwarae ar y safle ei symud i fan arall ar yr un safle a gosodir offer chwarae newydd arno. Mae gwaith gan Wickstead ar hyn eisoes wedi dechrau.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg y Cyngor:

鈥淩ydym yn hynod falch i fod wedi penodi ISG Cyf ar gyfer y prosiect allweddol hwn wrth i ni barhau i symud ymlaen gyda鈥檔 cynlluniau cyffrous ar gyfer addysg Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Rydym eisiau cynnig mwy o ddewis a chyfleoedd i rieni a gofalwyr pan ddaw i addysgu eu plant a helpu i dyfu鈥檙 iaith yma yn y fwrdeistref sirol. Bu鈥檔 ddechrau gwych i鈥檙 plant yn eu cartref dros dro yn Nh欧 Bedwellte a mae pawb ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at agor yr adeilad newydd fydd yn rhoi amgylchedd dysgu modern ac ansawdd uchel yn y Gymraeg ar gyfer ein disgyblion ieuengaf.

鈥淣id yw hi byth yn rhy hwyr i feddwl am roi addysg Gymraeg i鈥檆h plentyn, ac mae digon o wybodaeth ar gael ar yr adran Ysgolion a Dysgu ar wefan ein Cyngor.鈥

Mae鈥檙 Pennaeth, Ms Ann Toghill, yn edrych ymlaen at gwblhau鈥檙 adeilad newydd ar Chartist Way, Tredegar. Dywedodd:

鈥淩ydym yn falch iawn i fod wedi sefydlu dosbarth cyntaf Ysgol Gymraeg Tredegar yn Nh欧 Bedwellte lle bu staff yn groesawgar tu hwnt. Bydd ein hail garfan yn dechrau eu cyfnod gyda ni yn y safle dros dro fis Medi nesaf ond edrychwn ymlaen at symud i adeilad newydd yr ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd honno.

鈥淢ae hwn yn gyfnod gwych ar gyfer addysg Gymraeg ym Mlaenau Gwent a rydym yn falch fod ein staff a disgyblion yn Ysgol Gymraeg Tredegar eisoes wedi gwneud eu hunain yn rhan bwysig o鈥檙 gymuned.鈥

Bydd yr ysgol newydd yn dechrau fel 鈥榙arpariaeth egin鈥 gyda dosbarthiadau meithrin a derbyn ac yn tyfu darpariaeth ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2025.

I gael mwy o wybodaeth am ddwyieithrwydd a thaith addysg Gymraeg ewch i:

/en/resident/schools-learning/becoming-bilingual/